Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ionawr 2024
Amser:
09.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13657
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Sioned Williams AS (yn lle Heledd Fychan AS) Laura Anne Jones AS Ken Skates AS John Griffiths AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS a Heledd Fychan AS, gyda John Griffiths MS yn dirprwyo ar ran Buffy a Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Heledd.
1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog mewn perthynas â’r gyllideb ddrafft.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:
- Dadansoddiad llawn o’r cyllid adnoddau o £74.7 miliwn y cyhoeddwyd ym mis Hydref a fyddai’n symud o’r Prif Grŵp Gwariant Addysg a’r Gymraeg yn 2023-24.
- Amlinelliad o faint y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ei glustnodi ar gyfer prentisiaethau gradd yn llinell y gyllideb CCAUC/Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac a yw’n disgwyl unrhyw drosglwyddiadau ar gyfer prentisiaethau gradd o Brif Grŵp Gwariant yr Economi yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.
- Pryd fydd y ffigurau diweddaraf ar gael am y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion.
- Rhagor o wybodaeth am y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar gael i weithlu'r blynyddoedd cynnar.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gael rhagor o wybodaeth am Raglen Heddlu Ysgolion Cymru.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Derbyniwyd y cynnig
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn flaenorol.